Rhif y ddeiseb: P-06-1384

Teitl y ddeiseb: Cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol cael diffibriliwr mewn gweithleoedd a chlybiau chwaraeon

Geiriad y ddeiseb:

Mae diffibriliwr yn ddyfais sydd wedi'i chynllunio i achub bywydau mewn argyfwng. Mae'n chwarae rhan hanfodol mewn darparu gofal yn y man a’r lle i unigolion sy'n dioddef ataliad y galon. Yn ystod argyfwng meddygol o'r fath, mae amser yn hanfodol, a gall presenoldeb diffibriliwr wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw. Mae ymchwil wedi dangos bod cyfraddau goroesi yn cynyddu i 50-70% lle defnyddir diffibriliwr. Mae'r dyfeisiau hyn yn hawdd eu defnyddio—gall unigolion heb fawr o hyfforddiant eu defnyddio.

Drwy ychwanegu’r ddeddfwriaeth hon, byddai mwy o ddiffibriliwyr o fewn cyrraedd pobl yn eu gweithleoedd a’u clybiau chwaraeon, ac o’r herwydd byddai cyfraddau goroesi’n cynyddu ymysg pobl sy’n dioddef ataliad y galon yn y mannau hyn.

 

 

 


1.        Cefndir

Mae taflen ffeithiau Cymru a gyhoeddwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn tynnu sylw at y canlynol:

Yng Nghymru, dim ond un ym mhob ugain sy’n byw ar ôl cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.

Mae tua 2,800 achos o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r siawns y bydd y claf yn byw yn lleihau hyd at 10 y cant am bob munud na fydd dulliau adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibriliwr yn cael eu defnyddio.

Gall CPR cynnar a diffibrilio fwy na dyblu'r siawns y bydd y claf yn byw.

Amcangyfrifir bod diffibrilwyr sydd ar gael i’r cyhoedd (PADs) yn cael eu defnyddio mewn llai na 10 y cant o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun ar gyfer ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Nodir yn y cynllun ar gyfer ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty fod codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hollbwysig i sicrhau eu bod yn adnabod yn gynnar arwyddion ataliad ar y galon ac yn ymyrryd mewn da bryd. Os bydd rhywun gerllaw yn dechrau CPR, nodir hefyd fod dwywaith neu bedair gwaith mwy o siawns y bydd y claf yn byw ac, os defnyddir diffibriliwr o fewn 3-5 munud ar ôl i’r claf gwympo, gall y siawns y bydd yn byw wella’n sylweddol.  

Mae'r cynllun yn cynnwys y canlyniadau a’r camau gweithredu allweddol a ganlyn:

Hyrwyddo’n weithredol hyfforddiant CPR a sut i ddefnyddio diffibriliwr.

Mae diffibrilwyr hygyrch ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r cyhoedd yn gwybod ei bod yn hawdd defnyddio diffibrilwyr ac na fyddant yn gallu achosi niwed. 

Cydweithio i sicrhau bod yr holl ddiffibrilwyr yn cael eu mapio i sicrhau eu bod yn fwy hygyrch a bod mwy ohonynt ar gael i’w defnyddio.

Sicrhau bod protocolau a gweithdrefnau clir ar waith fel bod diffibrilwyr ar gael i’w defnyddio bob amser.

Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru yn 2019 gan Lywodraeth Cymru er mwyn:

Sicrhau bod pobl yn gwybod beth i'w wneud os bydd ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn digwydd.

Cynyddu nifer y bobl sy'n fodlon rhoi cynnig ar CPR.

Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddiffibrilwyr.

Sicrhau bod siawns pawb o oroesi ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty'r un fath ledled Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru raglen ariannu o bron i £2.5 miliwn dros dair blynedd i helpu i wella cyfraddau goroesi ar ôl ataliad ar y galon. Roedd nod y rhaglen yn cynnwys codi ymwybyddiaeth am gadwyn oroesi ataliad y galon; ariannu adnoddau addysgol a hyfforddiant newydd; addysgu pobl yng Nghymru am helpu unrhyw un sy'n dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty, a helpu i ddatblygu sgiliau a hyder pobl i roi CPR a defnyddio diffibriliwr; a gwella mynediad y cyhoedd at ddiffibrilwyr.

Ar 15 Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu’r cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. Nododd y canlynol:

Datblygwyd y cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty i wella canlyniadau yn hyn o beth yng Nghymru.

Mae rhaglen Achub Bywyd Cymru yn dwyn sefydliadau ledled Cymru ynghyd i helpu i ddatblygu sgiliau CPR y cyhoedd a’u dysgu sut i ddefnyddio diffibrilwyr.

Mae cymunedau a sefydliadau sydd â diffibrilwyr eisoes yn cael eu hannog i'w cofrestru ar The Circuit (rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol sy'n rhoi darlun cenedlaethol o leoliad diffibriliwyr).

Cafodd cyllid ychwanegol o £500,000 ei gyhoeddi ar 15 Medi 2021 i brynu bron 500 o ddiffibrilwyr ychwanegol (cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £500,000 pellach ar 25 Chwefror 2022.)

Wrth ymateb i’r ddeiseb hon, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gadarnhau:

Ar hyn o bryd mae dros 8,000 o ddiffibrilwyr wedi eu cofrestru ar y Circuit, sydd wedi dyblu ers 2019.

Mae Achub Bywyd Cymru wedi bod yn allweddol wrth annog gosod, defnyddio a chefnogi diffibrilwyr mynediad cyhoeddus drwy benodi cydlynwyr cymunedol ar gyfer pob ardal o Gymru; y genedl gyntaf yn y DU i greu'r "rolau cymunedol dylanwadol" hyn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi gwneud offer achub bywyd, fel diffibrilwyr, yn fwy hygyrch mewn cymunedau ledled Cymru gan ddweud ei bod wedi mabwysiadu “dull cefnogol” o sicrhau bod y defnydd o ddiffibrilwyr “yn cael ei sefydlu a'i normaleiddio” ledled Cymru. Ychwanegodd:

Cafodd y mater ei godi gan y Pwyllgor Deisebau yn y gorffennol, a safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw nad cyflwyno deddfwriaeth i orfodi darparu diffibrilwyr yw’r ffordd orau o gynyddu nifer y dyfeisiau sydd ar gael. Gallai deddfwriaeth fod yn wrthgynhyrchiol ac yn anodd ei gorfodi, yn ogystal â bod yn rhywbeth sy'n ychwanegu haenau diangen o fiwrocratiaeth.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Pwyllgor Deisebau’r Pedwerydd Cynulliad adroddiad ar ei ystyriaethau ynghylch deiseb yn galw am ddeddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus (P-04-471). Nododd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb ei datblygiad o'r cynllun ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty a fyddai, meddai, yn cyd-fynd â themâu argymhellion y Pwyllgor.  

Ar 15 Medi 2021, cynhaliodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl ynghylch mynediad at ddiffibrilwyr yn y Cyfarfod Llawn.

Ym mis Ionawr a mis Mawrth 2022, trafododd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb, ‘Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato’ (P-06-1230). Mewn ymateb i'r ddeiseb, eglurodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi darparu cyllid yn flaenorol i gael mynediad at ddiffibrilwyr, ei bod yn ystyried cylch arall o gyllid, a bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cysylltu ag ysgolion yn flaenorol i gynnig diffibrilwyr.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.